Lleuwen: O'r archif i'r Set Fawr

  • Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Phillip.Ar. Bilig

Pan gytunodd Lleuwen Steffan i gymryd rhan ym mhrosiect Deg Mewn Bws gyda Trac Cymru yn 2013 – prosiect â’r bwriad o ail-ddehongli cerddoriaeth werin Gymreig – ychydig a wyddai ei bod hi’n dechrau gwaith ar brosiect a fyddai’n mudferwi am dros ddegawd nes dwyn ffrwyth.

Ffynhonnell y llun, trac
Disgrifiad o’r llun,

Deg Mewn Bws

Eleni, mae Lleuwen yn teithio Cymru benbaladr yn perfformio’r sioe a ddaeth o ddeuddeng mlynedd o lafur cariad yn bodio drwy dapiau a chlipiau o Gymry’r gorffennol yn canu emynau.

A hithau yn nghanol ei thaith Tafod Arian (Emynau Coll y Werin) o amgylch capeli Cymru, cefais i sgwrs gyda Lleuwen am y prosiect unigryw hwn.

“Dwi wedi bod yn mwynhau ymhél efo’r emynau ’ma er fy lles fy hun mewn ffordd, ac ers i mi sortio’r stiwdio allan, nesh i benderfynu ’neud rhywbeth efo’r emynau ’ma.

"Do’n i ddim wedi bwriadu’u perfformio nhw o gwbl achos mi oedd o’i gyd yn gynhyrchiad stiwdio llawn, cyflawn. Ddim y math o beth ’sa chdi’n gallu ei berfformio – llwyth o overdubs a llwyth o offerynnau ac ati.”

Disgrifiad,

Perfformiodd Lleuwen ambell emyn fwy cyfarwydd ar eu newydd wedd yn Showcase Cymru fel rhan o ŵyl Celtic Connections

Mae Lleuwen yn mynd ymlaen i egluro i mi mai Elen Ellis o’r Eisteddfod wnaeth ei sbarduno hi i fwrw ’mlaen â’r prosiect i gyrraedd ei ffurf bresennol, a bod ei diolch yn fawr iddi.

Eglurodd, “ro’n i wedi colli blas ar berfformio – mae ’na gyfnod lle ti isio creu a mae ’na gyfnod lle ti isio bod allan.

"Dwi wedi cael lot o gyfnod creu hefo hwn. Mae pobl yn rhyfeddu at yr holl wybodaeth sy’na, ond i mi dydi o ddim yn rhyfedd achos dw i wedi bod yn ymwneud ag o ers dros ddegawd, dydw?

"Dwi’m yn brysio pethau, yn enwedig petha’ lle mae ’nghalon i ynddyn nhw.”

Gadael i'r prosiect 'stiwio'

Dwi’n awgrymu bod deng mlynedd yn amser hir, a’i bod hi wedi rhyddhau’r albwm Gwn Glân Beibl Budr – albwm a gynhyrchodd ffefrynnau cyfoes fel ‘Caerdydd’ a ‘Bendigeidfran’ – yn y cyfnod hwnnw:

“O’n i wedi meddwl gwneud hwn cyn Gwn Glan Beibl Budr, ond nesh i adael i hwn stiwio achos do’n i’m yn siŵr be o’n i isio’i ’neud efo fo.

"O’n i wedi dechrau gwneud trefniannau o’r emynau llafar gwlad ’ma, a do’n i’m yn licio nhw!

"Dwi’n gwybod pan mae rhywbeth yn gweithio, a pan mae rhywbeth ddim. A doedd o ddim yn gweithio, felly nes i jyst cario ’mlaen efo ’nghaneuon fy hun.”

Ffynhonnell y llun, MCPhotographie29

Recordiadau sain o archif Amgueddfa Sain Ffagan yw asgwrn cefn Tafod Arian, y recordiadau ddaeth hi ar eu traws yn gyntaf gyda Deg Mewn Bws.

Mae’r clipiau sain yn amrywio o unigolion yn canu emynau anghyfarwydd i sgyrsiau am y diwygiad i bregethau. Caiff rhain eu plethu gyda gitâr, synths, llais a mwy i greu cyfanwaith heb ei debyg.

Rhoi llwyfan i leisiau'r gorffennol

“Ges i’r syniad yn lle bo’ fi’n canu’r emynau bod yr archif, y tapiau, y lleisiau o’r archif yn gwneud y prif lais trwy’r darn ’ma o gerddoriaeth, a bo’ fi jyst yn rhoi lliw ar eu lleisiau nhw unai drwy harmoni lleisiol neu trwy offerynnau.

"Wedyn nath o glicio. Wedyn o’n i’n meddwl ocê, mae’n iawn rŵan dyna fel mae o fod. Felly dw i’n cymryd cam yn ôl mewn ffordd, dwi’n gadael i’r lleisiau ’ma fynd ar flaen y llwyfan. Dyna ydi’r nod beth bynnag.”

Ffynhonnell y llun, stay.focused.photography

Dywedodd bod cynnwys yr emynau yn wahanol iawn i rai rydyn ni’n gyfarwydd â nhw o’r un cyfnod.

Mae ambell un yn sôn am ‘win o seler Duw’, neu am ‘guro drws uffern’ a ‘nôl pres o fanc yr Iôr’. Dro arall maen nhw am datws.

“Ella, tasa nhw wedi bod mewn print fysan nhw ddim yr un peth â sy’ gynnon ni ar y recordings ’ma.

"Yr unig reswm maen nhw mor llafar ydy nad oedden nhw mewn print i bobl eu darllen nhw.

"Maen nhw wedi cael eu trosglwyddo ar lafar, felly maen nhw’n dafodieithol iawn. Mae’n ddiddorol gweld gwahanol fersiynau o’r un emyn mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.”

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Wrth deithio i bob cornel o Gymru mae Lleuwen wedi dod ar draws cannoedd o bobl – “pobl capel” a “phobl gigs” – ac wedi’i rhyfeddu gan ymateb pobl.

“Dwi wir wedi mwynhau’r gigs efo pobl capel achos ’sgyno nhw’m syniad be’ dw i’n ’neud na be’ i ddisgwyl.

"A be’ sy’n cŵl hefyd ydi, ar ôl g’neud [y gig] mae pobl yn y festri wedyn wedi dod ataf i yn cynnig emynau. A dw i’n rhyfeddu. Achos dw i’n deud ga’ i’ch recordio chi? a dw i’n disgwyl iddyn nhw fynd yn swil ond maen nhw’n dweud iawn, cei siŵr.

"Felly dwi’n mynd i’r festri, a dwi efo recordings o bobl yn canu rhyw emynau anghyfarwydd. Fedra i iwsio’r recordiadau dw i’n hel ar y daith ’ma yn y gerddoriaeth nes ymlaen.”

Ffynhonnell y llun, lleuwen

Wrth i’n sgwrs ddirwyn i ben, rydan ni’n dychwelyd at lle dechreuodd y stori hon; gyda’r Amgueddfa a’r cymorth arbenigol gafodd hi yno:

“Mae’r tri person oedd yn fy helpu i ddeng mlynedd yn ôl efo’r archif wedi colli’u swyddi yn sgil toriadau diweddar. Felly, taswn i’n dechrau’r ymchwil yma heddiw fyswn i ddim yn medru’i ’neud o, dw i’m yn meddwl.

"Achos yr unig ffordd ti’n cael arbenigedd ydy drwy dreulio lot o amser efo’r deunydd yn yr archif fel bod gen ti adnabyddiaeth dda o’r archif sydd yna.

Deall ein hunaniaeth Gymreig

"Mae’n bwysig nodi pa mor bwysig ydi arbenigedd staff. Mae’r union yr un peth yn wir am y Llyfrgell Genedlaethol, achos dwi’n defnyddio llawysgrifau ac archif sain o’r Llyfrgell hefyd."

"Mae’r ffaith bod y toriadau ’ma yn digwydd yn argyfwng go iawn i etifeddiaeth Cymru, ac wedyn i ddiwylliant Cymru heddiw."

"’Dan ni ’mond yn pwy ydan ni rwan oherwydd y gorffennol a fedran ni ddim wir dallt ein hunaniaeth oni bai bod gynnon ni gipolwg ar be’ sy’ wedi bod.”