Teyrngedau i reolwr Clwb Pêl-droed Y Felinheli, Euron Davies

Euron Wyn DaviesFfynhonnell y llun, Clwb Pêl-droed Y Felinheli
Disgrifiad o’r llun,

Mae Euron Wyn Davies wedi'i ddisgrifio yn "rheolwr cadarn a doeth"

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o deyrngedau wedi'u rhoi i reolwr tîm cyntaf Clwb Pêl-droed Y Felinheli sydd wedi marw'n sydyn.

Roedd Euron Wyn Davies yn 46 oed.

Ar y cyfryngau cymdeithasol mae nifer wedi dweud y bydd "colled enfawr" ar ôl "rheolwr cadarn a doeth".

Mewn datganiad ar gyfrif Facebook dywedodd llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Y Felinheli: "Trist iawn ydy gorfod cyhoeddi’r newyddion am farwolaeth sydyn ein rheolwr, Euron.

"Daeth ei weledigaeth â cyfnod llewyrchus iawn i’r clwb yn ystod ei gyfnod trawsnewidiol fel rheolwr.

"Rheolwr cadarn, doeth, a ffrind i bawb. A’i hiwmor yn liwgar trwy’r cwbl. Mae ein dyled fel clwb yn enfawr iddo.

"Colled mawr i’r clwb, i’r pentref, ac i’w deulu a’i ffrindiau oll."

Fel arwydd o barch fe gafodd gêm y clwb, sy'n chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed Cymru, yn erbyn Mynydd y Fflint ddydd Sadwrn ei gohirio.

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi neges facebook gan CPD Y Felinheli

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd neges facebook gan CPD Y Felinheli

Mae nifer wedi rhoi teyrngedau ar y cyfryngau cymdeithasol i Euron Davies.

Dywedodd Clwb Pêl-droed Llannefydd ei bod yn ddrwg iawn ganddynt glywed am y "golled enfawr" gan ei ddisgrifio yn "ddyn a hanner a roddodd bopeth i'r clwb".

Mae clybiau pêl-droed Porthaethwy, Llanrwst, Llangefni, Bethesda, Porthmadog a Phwllheli hefyd wedi estyn eu cydymdeimlad.

Wrth siarad â Cymru Fyw brynhawn Sadwrn dywedodd y sylwebydd pêl-droed, David James, fod Euron Davies yn "uchel ei barch".

"Doedd o ddim yn benboeth ac roedd o'n gwbl rhesymegol wrth siarad â dyfarnwr.

"Fe fydd yna golled fawr ar ei ôl a dwi'n cydymdeimlo'n fawr â chlwb pêl-droed Y Felinheli o glywed y newyddion trist," ychwanegodd.

Ychwanegodd Siân Gwenllian AS bod y newyddion yn "un hynod drist" a bod ei thri mab wedi elwa gymaint o fod yn ei dîm.

"Cyfraniad arbennig i bêl-droed llawr gwlad. Y pentref a'r ardal gyfan yn galaru ac yn meddwl am y teulu," ychwanegodd.

Pynciau Cysylltiedig