Taclo tân mawr mewn iard goed ym Mro Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae tua 40 o ddiffoddwyr yn delio â thân mawr mewn iard goed ym Mro Morgannwg.
Cafodd chwe chriw eu galw i Forest Products Ltd yn Y Bont-faen toc wedi hanner nos fore Gwener.
Mae'r digwyddiad yn parhau ac mae trigolion wedi cael eu rhybuddio i gadw drysau a ffenestri ar gau.
Does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi cael ei anafu.
Mae swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn y lleoliad.
Mae'r B4270 ynghau i'r ddau gyfeiriad ger tafarn The Cross Inn, ac mae gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi'r ardal.