Llafur ddim am gymryd arian dros ben o ymgyrch Gething

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething dan bwysau mawr ers derbyn cyfraniad dadleuol i'w ymgyrch i fod yn arweinydd Llafur Cymru

  • Cyhoeddwyd

Ni fydd yr arian dros ben o'r rhoddion at ymgyrch Vaughan Gething i arwain Llafur Cymru yn cael ei roi i'r blaid ei hun.

Roedd £31,600 yn weddill o'r cyfanswm a gododd Mr Gething, sef £251,600, gan gynnwys cyfraniad dadleuol o £200,000 gan gwmni dyn sydd wedi'i gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

Roedd sawl aelod blaenllaw o'r blaid wedi rhybuddio rhag derbyn arian dros ben gan gwmni Dauson Environmental Group.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru bod y Prif Weinidog "yn rhoi arian sy'n weddill o'i ymgyrch at achosion blaengar ehangach".

Dywedodd y llefarydd bod swyddogion pwyllgor gwaith Llafur Cymru wedi cytuno i'r cynllun diweddaraf.

Y pwyllgor fydd yn penderfynu pa achosion fydd yn derbyn yr arian - dywed Mr Gething na fydd yn rhan o'r drafodaeth honno.

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod sawl opsiwn dan ystyriaeth a bod dim penderfyniadau hyd yn hyn.

Dan reolau arferol y blaid, a rheolau trin arian cyffredinol y byd gwleidyddiaeth, fe fyddai'r £31,000 dros ben wedi cael ei drosglwyddo i'r blaid Lafur yn ganolog.

Mae'r prif weinidog wedi wynebu sawl galwad i ad-dalu'r £200,000 gan Dauson Environmental Group, ond wedi gwrthod.

Yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gething bod gweithgor Cymreig y blaid wedi cytuno "i fy nghais" i roi'r arian i "achosion blaengar".

Dywedodd wrth Aelodau o'r Senedd na fydd yn rhan o'r penderfyniad o ran pwy sy'n cael yr arian.

"Rwy'n meddwl bod angen iddyn nhw gael y sgwrs yna yn rhydd heb i mi fod yn yr ystafell," ychwanegodd.

'Profi camfarnau difrifol'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies "nad yw'r Blaid Lafur hyd yn oed... eisiau cyffwrdd yn yr arian yma".

Ychwanegodd: “Mae hyn yn gondemniad damniol o farn Vaughan Gething gan ei blaid ei hun."

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fe fyddai'r arian wedi bod yn staen ar ymgyrch etholiadol Llafur petai'r blaid wedi ei dderbyn.

Awgrymodd mai pasio'r arian dros ben ymlaen yw'r "rhan hawdd".

"Onid ydy penderfyniad Llafur i'w wrthod yn profi camfarnau difrifol y prif weinidog oedd yn fwy na bodlon i'w dderbyn yn y lle cyntaf?" gofynnodd.

Mynnodd Mr Gething: "Nid yn unig ydw i wedi gweithredu o fewn y rheolau ond rwyf wedi cydnabod pwyntiau rhai o'r aelodau.

"Dyna pam y mae yna broses o fewn fy mhlaid fy hun i edrych ar reolau yn y dyfodol i ddeall y meini prawf y mae angen i bawb gyrraedd."

Pynciau Cysylltiedig