Dofednod yn Sioe Nefyn am y tro cyntaf ers 2019

Carol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carol Jones yn "falch" o weld y dofednod yn dychwelyd i'r sioe

  • Cyhoeddwyd

Mae dofednod yn cael eu harddangos yn Sioe Amaethyddol Nefyn am y tro cyntaf ers pum mlynedd.

Dydi hi ddim wedi bod yn bosib dangos dofednod ac adar caeth eraill yn y sioe ers 2019 oherwydd y pandemig a mesurau a ddaeth i rym yn sgîl pryder am ledaeniad ffliw adar.

Ond eleni, yn sgil llacio'r mesurau hynny ym mis Chwefror, mae'r creaduriaid wedi gallu dychwelyd i sioe amaethyddol gyntaf y flwyddyn.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Carol Jones, ei bod yn "falch iawn i gael nhw'n ôl".

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y mesurau yn ymwneud â chadw adar caeth eu llacio ym mis Chwefror

Mae'r sioe yn cael ei chynnal ar Fferm Botacho Wyn yn Nefyn.

Dyma'r sioe amaethyddol gyntaf i ers i'r mesurau sy'n ymwneud â chadw adar caeth gael eu llacio ym mis Chwefror.

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Carol Jones bod llacio'r rheolau bryd hynny, wedi golygu bod "digon o amser" iddyn nhw fynd ati i wneud trefniadau ar gyfer arddangos dofednod unwaith eto.

"Mae pawb yn licio dod i weld yr ieir, yn enwedig y plant, ac maen nhw i gyd yn licio cystadlu yn eu hadran nhw fel junior handlers," meddai.

Ychwanegodd Ms Jones ei bod hi'n "falch iawn i weld fod yr hen wynebau wedi dod yn ôl aton ni i gefnogi eleni".

Mae'r rheolau sy'n ymwneud â chadw chwyad hefyd wedi eu llacio, ond fe ddaeth hynny yn "rhy hwyr" ar gyfer y sioe eleni, yn ôl Ms Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai cyfeiriadau yn y sioe tuag at brotestiadau diweddar yn erbyn cynlluniau amaeth Llywodraeth Cymru

Mae yna heriau wedi bod wrth drefnu'r digwyddiad, yn ôl Ms Jones, sy'n nodi bod y cae wedi ei orchuddio gyda dŵr ychydig wythnosau yn ôl.

"Mae 'na waith trefnu... mae angen sortio'r gwaith papur... gosod bob dim ar y safle.

"Ddydd Gwener ddiwethaf wnaethom ni ddod yma i orffen y gwaith, rhoi'r rhifau fyny, y siafins."

Fe ychwanegodd bod "digon o stondinau" yn y sioe eleni i gynnig "rhywbeth i bawb".

Pynciau Cysylltiedig