Eisteddfod Pontrhydfendigaid yn dathlu 60 mlynedd

Dawns y blodau Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  • Cyhoeddwyd

Mae Eisteddfod Pontrhydfendigaid yn dathlu 60 mlynedd y penwythnos hwn.

Teulu James Pantyfedwen oedd y tu ôl i'r eisteddfod gan ddarparu pafiliwn arbennig i'r ardal.

Dywedodd Neli Jones sydd wedi bod yn ysgrifennydd i'r eisteddfod ers 40 mlynedd fod yr eisteddfod yn rhan bwysig iawn o'r gymuned leol.

Er gwaetha'r heriau y mae eisteddfodau lleol yn eu hwynebu, mae'r criw yn benderfynol o barhau i roi cyfle i ieuenctid yr ardal berfformio ar y llwyfan mawr.

'Pobl yn dod o bob man' i'r eisteddfod

Bu Neli Jones a'i diweddar ŵr, Selwyn Jones, yn gyd-ysgrifenyddion i'r eisteddfod am 40 mlynedd.

Wrth siarad â BBC Cymru Fyw, dywedodd Neli Jones fod yr eisteddfod yn "bwysig iawn i gael diwylliant i'r ardal".

Wrth hel atgofion am yr eisteddfod, dywedodd ei bod yn "cofio'r eisteddfod gyntaf 'nôl yn 1964, a phryd hynny roedd mewn pabell fawr".

Ychwanegodd fod David James "wedi trefnu cael pafiliwn" erbyn 1967 "erbyn hyn ni ar yr ail bafiliwn".

Er bod yr eisteddfod yn rhan fawr o'r gymuned leol, dywedodd fod "pobl yn dod o bob man, rhai dros y ffin hyd yn oed".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neli Jones wedi bod yn cyfeilio yn yr eisteddfod ers yn ifanc

Mae Neli wedi bod yn cyfeilio i'r eisteddfod ers y cychwyn, gan barhau i wneud hynny eleni eto.

Ond nid gwaith hawdd yw cynnal eisteddfod, dywedodd ei fod yn "lot o waith, yn waith rownd y flwyddyn i ddweud y gwir" gan gyfeirio'n benodol at ofalu am y pafiliwn.

Gyda'r cystadlu wedi cychwyn nos Wener, dywedodd "roedd hi'n neis neithiwr gweld pobl wedi dod 'nôl".

Dywedodd fod yna "ddigon o ieuenctid yn cystadlu a ni'n edrych ymlaen at heno".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yr arddangosfa i ddathlu'r 60 mlynedd yn yr eisteddfod

Dywedodd Gwenllian Beynon, sy'n gyfrifol am gyfryngau cymdeithasol yr eisteddfod, mai un o'r rhesymau y tu ôl i lwyddiant yr ŵyl yw ei bod hi'n "llanw gap mawr".

Fe esboniodd oherwydd maint y llwyfan a'r pafiliwn, "mae unrhyw un sydd eisiau mynd ymlaen i gystadlu yn broffesiynol yn cael y llwyfan proffesiynol" er mwyn magu profiad.

Aeth ymlaen i ddweud mai pobl "benderfynol, fel Neli Jones" sydd wedi sicrhau llwyddiant yr eisteddfod hyd yma ynghyd â'r gefnogaeth yn lleol.

Dywedodd fod "lot o bobl sy'n lico perfformio a chystadlu yma ond mae pobl yn dod o bell hefyd, ac mae'n rili neis gweld teuluoedd di-gymraeg a'r plant yn cystadlu yn Gymraeg yma".

Gweledigaeth teulu Pantyfedwen yn 'anhygoel'

Fe soniodd fod "gweledigaeth teulu Pantyfedwen i'r gymuned" yn un "anhygoel, ac mae gwaddol hwnna yn bwysig".

Dywedodd fod y "cystadlu yn anhygoel" a bod gwrando ar y plant a'r ieuenctid yn perfformio yn "lot o sbort".

Wrth edrych ymlaen at y 60 mlynedd nesaf, roedd yn annog y cyhoedd i "gefnogi eisteddfodau lleol, mae llwyth ohonyn nhw" gan ychwanegu "ni bendant ddim yn byw yn yr un byd ag o ni 60 mlynedd yn ôl".

Pynciau Cysylltiedig