Cip ar yr ysgol gomedi yn Llangefni

Kiri Pritchard-McLean ar lwyfan Leicester Comedy FestivalFfynhonnell y llun, getty images
Disgrifiad o’r llun,

Kiri Pritchard-McLean

  • Cyhoeddwyd

Mae Llangefni, o bosib, yn lleoliad go annisgwyl i agor ysgol gomedi. Ond yno y penderfynodd Kiri Pritchard-McLean a Katie Gill-Williams sefydlu Gwneud Make Do.

Mae Gwneud Make Do yn cynnig sesiynau creadigol i ddysgu am grefft comedi: o fyrfyfyrio, i ysgrifennu sgriptiau, i wneud stand-yp mae tymor o sesiynau yn cynnig trosolwg eang o gomedi yn ei holl ffurfiau.

Pwy ydyn nhw?

Kiri Pritchard-McLean

Yn gynyddol aml mae Kiri i'w gweld ar rai o brif raglenni comedi y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Have I Got News For You, 8 out of 10 Cats Does Countdown, QI a Live at the Apollo. Mae hi hefyd wedi teithio gwledydd Prydain benbaladr gyda'i sioeau stand-yp Home Truths, Victim Complex, a'i sioe gyfredol Peacock. Ar ben hynny mae hi'n bodledwraig brysur, a than yn ddiweddar bu'n cyflwyno ar BBC Radio Wales ar brynhawniau Sul.

Un o Fôn yw hi, ac mae hi'n dal i fyw yn yr ardal felly 'roedd agor ysgol gomedi yn agos at adra yn gwneud synnwyr.

Ffynhonnell y llun, Katie Gill-Williams
Disgrifiad o’r llun,

Katie Gill-Williams

Katie Gill-Williams

Un o ochrau Lerpwl yw Katie Gill-Williams yn wreiddiol ond mae bellach wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru, ac wedi dysgu Cymraeg. Dim ond yn ddiweddar y dechreuodd ymwneud o ddifrif â chomedi stand-yp.

Mae hi wedi perfformio ledled y DU yn rhai o wyliau mwyaf y byd comedi gan gynnwys Gŵyl Gomedi Machynlleth a Chaerlŷr ac yn y Women in Comedy Festival ym Manceinion.

Yn ogystal â hynny, mae wedi ysgrifennu i raglen banel What Just Happened BBC Cymru, a wedi cefnogi y gomediwraig Rachel Fairburn ar y daith Showgirl yn 2023. Roedd hi yn ffeinal Frog and Bucket World Series 2022, ac ar rest fer gwobr BBC Newy Comedy Awards 2023.

Sefydlu Gwneud Make Do

Dywedodd Katie mai sylwi ar ddiffyg cyfleoedd yn lleol oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer dechrau'r sgwrs am yr ysgol.

"Pan o’n i’n ifanc nes i wneud drama, jest tu allan i Lerpwl a 'nes i feddwl pa mor bwysig yw hi i bobl ifanc gael rhywbeth i fynd i weld os ydyn nhw’n ei hoffi – comedi neu ddrama neu rywbeth fel hwn. So, nes i siarad [gyda Kiri] am ddechrau rhywbeth."

Ychwanegodd Kiri: "Dw i’n cytuno. Pan 'nes i symud [yn ôl] yma, achos dw i’n dod o Sir Fôn, o’n i wedi penderfynu bod hi’n rili bwysig i drio cefnogi pobl dalentog yn yr ardal a trio defnyddio fy contacts, a jyst trio gwneud rhywbeth i helpu pobl ifanc i wneud comedi yng Nghymru.

"Mae pobl wastad yn symud i Lloegr, Llundain, Manceinion i wneud pethau in the Arts. Mae’n bwysig i mi bod pobl ifanc sy’n byw yn Sir Fôn, sydd isio gwneud comedi neu drama, yn hapus i aros yma."

Disgrifiad o’r llun,

Rhannu tips a phrofiadau

Ar gyfer pwy mae'r ysgol?

Mae'r sesiynau yn cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos; i oedolion ar nos Fawrth ac i blant a phobl ifanc ar foreau Sadwrn. Pwysleisiodd y ddwy bod yr ysgol ar gyfer pawb ac mai'r nod yw bod yn lle cynhwysol a chroesawgar i bawb gael mynegi eu hunain.

Eglurodd Katie: "Mae o i bobl ifanc a pobl fel fi hefyd. O’n i’n gwneud swydd wahanol cyn i mi ddechrau gwneud comedi eto. Mae gen i blant felly mae’n anodd ffeindio outlet i wneud rhywbeth creadigol."

Ategodd Kiri: "Dw i’n meddwl mae’n rili bwysig i siarad am famau. Achos dw i’n gweld llawer o famau sy’n colli dipyn bach o nhw [eu hunain ar ôl cael plant]. Dwi’n meddwl bod o’n bwysig i jyst cael rhywbeth arall, dim jest bod yn “Osian’s mam” neu “Geraint’s mam”. So jyst helpu pobl – sounds cheesy – to find themselves."

Mae hyn yn rhywbeth mae Katie, fel mam i blant ifanc, yn ei wybod ei hun: "Dw i’n deall. Mae’n bwysig [i oedolion] gael outlet hefyd. Mae’n neis i wneud rhywbeth vulnerable achos pan ti’n hŷn ti’n stopio dysgu. Dw i’m yn gwybod pam."

Ychwanegodd Kiri: "Dw i’n meddwl bod 'na lawer o bethau i gefnogi pobl ifanc a henoed, ond mae 'na jyst gap yn y canol. Dw i’n meddwl bod llawer o bobl ddim yn gwybod be' [maen] nhw isio gwneud. Dal, yn eu 20s, yn eu 30s, yn dal i drio ffeindio ‘the thing’."

Disgrifiad,

Gwyliwch: Katie Gill-Williams a Kiri Pritchard-McLean yn sôn am y syniad tu ôl i Gwneud Make Do, eu hysgol gomedi newydd yn Ynys Môn.

Mae'r ymateb i'r ysgol wedi bod yn "anhygoel," medden nhw, ac mae gweld y cynnydd a'r datblygiad yn yr unigolion sydd wedi bod yn dod yn wythnosol ers mis Medi yn "gyffrous." Ac mae'r ddwy yn "falch iawn" o'r fenter newydd yma.

Gyda Kiri wedi sefydlu ei hun yn gadarn ar y sîn gomedi Brydeinig, mae'n cymryd mantais ar y "contacts" mae hi wedi'u gwneud ar y ffordd. Mae gwahanol gomediwyr yn dod i'r sesiynau i ganolbwyntio ar grefftau gwahanol.

Disgrifiad o’r llun,

Un o sesiynau yr oedolion

"Daeth Kate McGabe i wneud improv efo’r dosbarth. Mae hi o Efrog Newydd yn wreiddiol ond yn Manceinion rwan. One of the best improvisers in the industry," meddai Katie.

Dywedodd Kiri ei fod yn bwysig iddi hi i beidio â chymryd yr agwedd ei bod hi'n mynd i allu dysgu popeth, jest oherwydd ei bod hi'n brofiadol:

"Dw i ddim yn gwybod digon am musical comedy felly dw i jyst yn dweud wrth Carys Eleri, 'ti isho dod yma a gwneud dosbarth a gwersi?' Ac mae’n rili bwysig i fi ddim jyst assume 'Oh I can teach that!'."

Eglurodd mai dim ond dechrau gwneud comedi yn Gymraeg y mae'r ddwy ohonynt, a'i bod hi'n bwysig iawn iddyn nhw fel dysgwyr gael defnyddio eu Cymraeg. Felly fe alwon nhw ar Tudur Owen i gynnal y dosbarth Defnyddio Cymraeg Mewn Comedi gan fod cynifer o siaradwyr Cymraeg yn dod i'r sesiynau.

Pwysigrwydd yr ysgol i Ynys Môn

Yn un o'r fam ynys ei hun mae Kiri yn teimlo'n gryf am gael cyfle fel Gwneud Make Do ar gael yn lleol.

"Mae dipyn bach yn drist rwan i weld Môn a phobl ifanc Môn, there’s fewer canolfan a clubs i fynd, especially the Arts. Dw i’n meddwl bod Ynys Môn angen dipyn bach o love, achos mae ’na lawer o bobl talentog yma, a dw i’n meddwl mae’n rili bwysig i bobl gael y cyfle."

Gwyliwch Kiri ar raglen Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd ar S4C.

Pynciau Cysylltiedig