Y cyn-chwaraewr hoci, Austin Savage, wedi marw

Austin Savage
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Austin Savage yrfa fel athro yn Ysgol Glan Clwyd, a bu hefyd yn gyfrannydd cyson i BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-chwaraewr hoci rhyngwladol, Austin Savage, wedi marw yn 84 oed.

Cafodd ei eni yn Llanelwy yn 1940 ac fe gafodd ei fagu yn ardal Trelogan yn Sir y Fflint.

Fe gollodd ei fam ag yntau'n chwech oed, a'i dad pan yn 15 oed, ac aeth i fyw gyda pherthnasau nes iddo fynd i'r coleg.

Ar ôl chwarae yn achlysurol yn Ysgol Ramadeg Treffynnon, fe ddechreuodd chwarae hoci o ddifrif yn y brifysgol ym Mangor, cyn cael ei ddewis i Gymru ac i Brydain maes o law.

Fel gôl-geidwad fe enillodd 101 o gapiau i Gymru ac 20 i Brydain yn ystod ei yrfa, ac roedd yn rhan o dîm hoci Prydain yng Ngemau Olympaidd Munich yn 1972.

Yn y gemau hynny bu'n dyst i'r ymosodiad gan grŵp Palesteinaidd Black September, a laddodd 11 o aelodau o dîm Israel.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Austin Savage yn rhan o dîm hoci Prydain yng Ngemau Olympaidd Munich yn 1972

Y tu allan i fyd y campau fe gafodd yrfa fel athro yn Ysgol Glan Clwyd, a bu hefyd yn gyfrannydd cyson i BBC Cymru.

Yn ogystal â dysgu, bu hefyd yn gyfrifol am ddod ag aelodau’r grŵp Sidan at ei gilydd, gan ddod yn rheolwr arnyn nhw.

Yn 31 oed cafodd ei benodi i’r fainc fel Ynad Heddwch - un o’r ieuengaf ar y pryd i gyflawni’r swydd.

Bu’n ynad am 38 o flynyddoedd cyn ymddeol yn 2010.

Bu hefyd yn gymwynaswr mawr i’w gymuned yn Llanelwy, i’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn aelod brwd o’r elusen golff, Criw Hogia Dydd Mawrth.

'Cymro i'r carn'

Wrth ei gofio ar raglen Post Prynhawn ddydd Gwener dywedodd Nigel Williams, Deon Llanelwy fod Mr Savage yn "Gymro i'r carn".

"Yn y gogledd ddwyrain mi rydan ni yn nes i'r ffin o lawer. Mae dal at y Gymraeg yn dipyn fwy o her yn yr ardal yma - ac roedd o'n un o'r bobl hynny oedd yn Gymro hyd at fêr ei esgyrn.

"Roedd yn ddyn hynaws. Y cof cyntaf sydd gen i ohono yw fel athro Bywydeg... roedd o'n ddyn clên tu hwnt ac yn ddyn oedd wedi cael magwraeth galed wedi iddo golli ei rieni yn ifanc.

"Mi roedd o'n chwarae rhan fawr o ran yr ysgol ac yn chwarae rhan fawr o ran y gymuned yma yn Llanelwy.

"'Mawr y llanc a Chymro llon', medden nhw am Barry John ond fe fydden i'n dweud yr un peth am Austin Savage," ychwanegodd.

Mae'n gadael gwraig, Vera, tri o feibion - Dewi, Huw a Gwyn - a chwech o wyrion.

Pynciau Cysylltiedig