CARTEN100: 20 mlynedd o feicio o Gaerdydd i Ddinbych-y-Pysgod

CARTEN 2021Ffynhonnell y llun, CARTEN100
  • Cyhoeddwyd

Ydych chi’n un o’r 2,100 o feicwyr sydd yn cymryd rhan yn reid feics CARTEN100 eleni?

Dyma daith elusennol flynyddol lle mae seiclwyr yn beicio’r 100 milltir rhwng Caerdydd a Dinbych-y-Pysgod mewn diwrnod, ac eleni mae’n dathlu pen-blwydd yn 20 oed.

Heddiw, mae hi’n reid â sglein broffesiynol iddi. Yn 2004, dim ond pedwar beiciwr oedd, ac roedd hi ychydig llai ffurfiol…

Ffynhonnell y llun, CARTEN100
Disgrifiad o’r llun,

Peter Palmer (chwith) gyda gweddill y criw gwreiddiol yn 2004

“Naethon ni’r reid yn 1993 – fi, fy mrawd yng nghyfraith a dau ffrind, ac anghofio am y peth,” eglurodd Peter Palmer, un o drefnwyr a sefydlwyr y daith. “Un ar ddeg mlynedd wedyn, ‘naeth yr un grŵp yr un daith eto, yn ein siorts a’n hen feics o’r ysgol.”

A dyna oedd dechrau digwyddiad blynyddol sydd erbyn hyn wedi codi bron i £1.5 miliwn i elusen.

Ffynhonnell y llun, CARTEN100

‘Cyrraedd, dim rasio’

Nid ras feics gyffredin yw hon; does yna ddim enillydd, na rasio’n erbyn y cloc. Yn hytrach, eglura Peter, y nod yw i gael pobl allan ar y beic, ac i fwynhau’r daith:

“Dyw e erioed wedi bod am gyrraedd yna’n gyflym. Yn 2004, mae’n siŵr ei bod hi wedi cymryd rhyw 10-11 awr i ni. Roedd yna lot o stops; am frecwast, mewn pyb am beint, a phan ti’n agosáu at y diwedd, mae hi’n demtasiwn i gael dau beint…

“Yr ethos wastad wedi bod ydi jyst mynd mas yna a mwynhau – dyna beth ni’n trio’i wneud nawr. Dyw e ddim am pa mor gyflym ti’n mynd. Mae am gael dydd mas neis, falle mynd nôl ar dy feic, cael sgwrs. Cyrraedd, dim rasio.”

Ffynhonnell y llun, CARTEN100
Disgrifiad o’r llun,

Reidwyr 2005: Roedd y criw ychydig mwy yr ail flwyddyn

Ac mae hi’n reid lwyddiannus, sydd wedi tyfu’n aruthrol ers i’r pedwarawd gwreiddiol gymryd yr her. Yr ail flwyddyn, roedd yna 12 reidiwr. Yn 2006, roedd y criw yn fwy eto, ac wedi penderfynu creu crysau swyddogol ar gyfer yr achlysur.

Bellach, mae rhyw 2,000 o feicwyr yn cymryd rhan yn flynyddol, gan gasglu degau o filoedd o bunnoedd i elusen.

Ond pam beicio 100 milltir?

Ffynhonnell y llun, CARTEN100
Disgrifiad o’r llun,

Yr harbwr yn Ninbych-y-Pysgod dan ei sang gyda beics a beicwyr ar ddiwedd y daith

Mynd yn ôl ar y beic

Wel... 108 milltir, i fod yn fanwl gywir. Mae’r daith wedi gorfod addasu dros y blynyddoedd er mwyn diogelwch y criw, wrth i’r niferoedd chwyddo. (Ond beth yw wyth milltir rhwng ffrindiau?)

Mae’r daith ar y calendr beicio, a phawb yn awyddus i gymryd yr her, hyd yn oed y rhai sydd heb feicio ers blynyddoedd. Mae Peter yn cyfaddef ei hun cyn y reid honno yn 2004 a ddechreuodd y cyfan, fod y beic wedi bod yn segur yn y garej ers blynyddoedd.

“Mae 100 milltir yn eitha’ peth yndydi, mae’n swnio’n lot, ac mae pobl eisiau ei wneud. Ac mae e’n mynd o bwynt A i bwynt B, lle mae’r rhan fwyaf o reidiau beics yn mynd rownd mewn cylch a ti’n gorffen yn y maes parcio ‘nes di ei adael ychydig oriau ynghynt.

"Yn hwn, does gen ti ddim dewis ond i eistedd lawr a chael saib yn Ninbych-y-Pysgod. Mae hwnna yn bwydo i mewn i’r hwyl.”

Ffynhonnell y llun, CARTEN100
Disgrifiad o’r llun,

Cael saib ar ôl y daith

A hyd yn oed i’r di-brofiad, mae yna ddigon o gefnogaeth bellach, gyda faniau cefnogi wrth law i helpu gyda phroblemau technegol, a digon o lefydd i stopio am fwyd.

“Roedd ‘na wastad lefydd lle oedden ni’n stopio. Pan mae ‘na 20 o bobl, mae hi’n hawdd stopio mewn caffi, wedyn roedd yna dafarn oedd yn ein bwydo pan oedd ‘na ychydig gannoedd. Ond nawr fod yna 2,000 o bobl, mae hi’n anoddach.

“Mae gennyn ni ein gorsafoedd ein hunain, gyda bananas, bariau egni a dŵr, a ’dyn ni’n defnyddio llefydd fel clwb sgowtiaid Baglan a’r RNLI ym Mhorth Tywyn. Ry’n ni’n cyfrannu arian iddyn nhw ac maen nhw’n rhoi bwyd, ac mae’n gweithio’n grêt.”

Mae cefnogi’r ardal leol yn bwysig i’r criw, ac ynghyd â chyfrannu arian i elusennau mawr, maen nhw hefyd yn rhoi arian i elusennau a grwpiau llai ar hyd y llwybr, fel clybiau chwaraeon a meithrinfeydd.

Eleni, maen nhw’n rhagweld croesi’r trothwy o £1.5 miliwn i elusennau dros y blynyddoedd, drwy nawdd crysau, ffi cymryd rhan a rhoddion.

Ffynhonnell y llun, CARTEN100
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na wastad ddigon o hwyl i'w gael!

Trefnu’r hwyl

Ar ôl cymryd rhan bob blwyddyn am 12 mlynedd, yn gwneud y trefniadau y tu ôl i’r llen mae Peter yn bennaf bellach, a hynny am fod y gwaith papur a’r trefnu wedi gorfod tyfu wrth i’r digwyddiad dyfu. Wrth gwrs, gall y reid ddim digwydd heb gydweithio agos gyda’r cynghorau sir a’r heddlu:

“Mae Cyngor Sir Gâr yn grêt, yn ysgubo’r lonydd cefn cyn i ni reidio arnyn nhw i glirio unrhyw fwd a cherrig bach. Yn Ninbych-y-Pysgod, wrth gwrs, ti’n dibynnu ar y cyngor achos ein bod ni’n cau’r sgwâr a’r harbwr.”

A beth sydd yn digwydd os oes yna rywun cael damwain?

“Mae’r holl reidwyr wedi eu hyswirio, er dim ond un ddamwain fach ry’n ni wedi ei chael mewn 20 mlynedd. Mae pobl yn syrthio oddi ar y beic, ond does yna ddim llawer alla i wneud am hynny...!”

Ffynhonnell y llun, CARTEN100

Â'r reid yn denu miloedd o feicwyr bob blwyddyn, mae'r apêl yn amlwg, ac mae'r trefnwyr yn clywed straeon hyfryd gan y bobl sydd yn cymryd rhan, sydd wedi mwynhau'r profiad:

“Efallai y bydd ‘na rhyw dri neu bedwar e-bost gan rywun yn cwyno achos eu bod nhw’n hwyrach yn cyrraedd yr archfarchnad, ond degau o negeseuon gan bobl a gafodd y diwrnod gorau erioed.”

Pynciau Cysylltiedig