Galw am fwy o gyfleoedd yn sgil statws UNESCO

Dinorwig
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd tirwedd chwarelyddol y gogledd-orllewin ei dynodi’n safle UNESCO yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Bron i dair blynedd ers i ardaloedd chwareli'r gogledd-orllewin gael ei dynodi'n safle UNESCO, mae 'na alw am wneud mwy fel bod pobl ifanc yn gweld mantais o'r statws.

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Bangor yn awgrymu bod pobl ifanc y fro am weld mwy o fuddsoddiad economaidd a chyfleoedd addysg i ymwelwyr.

Fe gafodd tirwedd chwarelyddol y gogledd-orllewin ei dynodi’n safle UNESCO yn 2021 gan ymuno â Thraphont Ddŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll Edward y Cyntaf yng Nghymru.

Yn ôl un fu ynghlwm â’r cais gwreiddiol, fe allai gymryd "nifer o flynyddoedd" nes y bydd gwir effaith economaidd y statws yn dod i’r amlwg.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Sara Parry, roedd y bobl ifanc a holwyd eisiau gweld mwy o gyfleoedd gyrfaol ac addysgol

Mae’r ardal yn cynnwys hen ardaloedd chwarelyddol Gwynedd, gyda’r statws yn galluogi i Gyngor Gwynedd a mentrau lleol wneud cais am fwy o gyllid i ddatblygu treftadaeth yr ardal.

Ond yn ôl gwaith ymchwil gan Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor, mae pobl ifanc yr ardal am weld mwy yn digwydd i wella cyfleoedd gyrfaol ac addysgol.

"'Naethon ni gyfweld dros 30 o bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed, a'r rhain wedi tyfu fyny yn yr ardal," medd Dr Sara Parry, sy’n uwch ddarlithydd marchnata yn y brifysgol.

"'Naethon ni holi nhw am eu persbectif o’r statws, ac oedd rhai yn cwestiynu os oedd o jest yn deitl, a bod nhw isio gweld mwy o fuddsoddiad yn yr ardal.

"'Oeddan nhw’n meddwl am wella'u sgiliau nhw, yn meddwl am eu gyrfaoedd nhw, ac 'oeddan nhw eisiau aros yma gan bod nhw’n caru’r lle, ond roedden nhw eisiau gweld swyddi o ansawdd yn dod yma ar ôl cael y statws newydd."

Ychwanegodd Dr Parry fod yr ymchwil yn dangos balchder pobl ifanc yn eu bro.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Luned, Branwen, Gruff a Gwern o Ysgol Brynrefail am weld mwy o fuddsoddiad a mwy o addysgu ymwelwyr am hanes yr ardal

Mae Ysgol Brynrefail yn gorwedd yng nghysgod chwarel Dinorwig, ac mae rhai o ddisgyblion y chweched dosbarth yn cytuno â’r angen am fwy o fuddsoddiad.

Yn ôl Gruff, mae angen sicrhau mwy o gynlluniau yn lleol i addysgu ymwelwyr.

“Mae angen bod yn amlycach i’r ymwelwyr sy’n dod yma be ydy’r hanes, trio annog nhw i ddysgu am y chwarel a phethau sy’n amgylchynu’r Wyddfa, nid dim ond y llyn – mae 'na fwy iddi na hynny.”

Yn ôl Branwen, “y gwreiddiau yma sy’n bwysig”.

“Ella bod nhw yn dod yma yn yr haf am eu gwyliau a ddim yn sylwi ar y gwreiddiau sydd tu ôl i’r ardal ac i bobl sy’n byw yma fel ni.

"Dyna ydy’r peth pwysicaf am yr ardal - yr hanes.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae dynodi’r statws UNESCO ar yr ardal yn gosod y rhanbarth yn yr un dosbarth â'r Taj Mahal yn India, y Pyramidiau yn Yr Aifft a theml Angkor Wat yn Cambodia

“Dwi’n gobeithio bydd mwy yn dod yma ac yn lle trin o fel maes chwarae, bod o’n lle i ddysgu am ein diwylliant a iaith," meddai Gwern.

Yn ôl Luned, mae hi am weld mwy o gyfleoedd am swyddi o ansawdd da yn dod yn sgil y statws.

“Dwi isio hefyd gweld mwy yn digwydd gyda’r pentrefi o amgylch Llanberis - llefydd fel Llanrug a Waunfawr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r Arglwydd Dafydd Wigley ddim yn disgwyl "gweld ffrwyth llafur hyn am bedair i bum mlynedd"

Mae dynodi’r statws UNESCO ar yr ardal yn gosod y rhanbarth yn yr un dosbarth â'r Taj Mahal yn India, y Pyramidiau yn Yr Aifft a theml Ankgor Wat yn Cambodia - yn denu rhagor o ymwelwyr ac yn hwb i economi'r gogledd-orllewin.

Ond yn ôl un fu wrth galon yr ymgyrch i ddenu’r statws, fe allai gymryd blynyddoedd i weld ffrwyth llafur y gwaith.

“Swn i’m yn disgwyl y byddwn i’n gweld ffrwyth llafur hyn am bedair i bum mlynedd arall," meddai’r Arglwydd Dafydd Wigley.

“Mae pethau yn digwydd rŵan - roedd 80 o bobl o 30 o wledydd wedi dod i Lanberis yn ddiweddar oherwydd y statws.

“Mae’r peth yn digwydd. ‘Di o ddim bob amser yn weladwy, ond dros gyfnod fydd o’n adeiladu at yr economi, ac hefyd y cyfleon i bobl ifanc.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud y bydd pobl yn gweld "datblygiadau cadarnhaol o fewn eu cymunedau dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod"

Yn ôl Cyngor Gwynedd, maen nhw’n deall y "rhwystredigaeth", ond yn mynnu fod "datblygu unrhyw gynlluniau i fanteisio ar y dynodiad angen amser i’w datblygu ac rydym yn hyderus y bydd pobl yn gweld datblygiadau cadarnhaol o fewn eu cymunedau dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod".

Ychwanegodd llefarydd bod hynny yn cynnwys £26m trwy gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a phartneriaid i weithredu cynlluniau ym Methesda, Llanberis a Blaenau Ffestiniog, a buddsoddiad sylweddol i’r Amgueddfa Lechi, ynghyd â sawl prosiect arall.