Ymateb i ffrwydrad mewn ffatri arfau yn Sir Fynwy

Safle BAE Systems yng NglascoedFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad toc cyn 11:00 fore Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys yn ymateb i ffrwydrad mewn ffatri arfau ger pentref Glascoed yn Sir Fynwy.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r digwyddiad ar dir cwmni BAE Systems am 10:49 fore Mercher.

Dywedodd y gwasanaeth mewn datganiad fod y ffrwydrad wedi digwydd y tu mewn i adeilad.

Mae BAE Systems yn gwmni sy'n cynhyrchu ac yn datblygu arfau, ac mae tua 500 o bobl yn gweithio ar y safle yng Nglascoed.

Ychwanegodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod hwythau wedi ymateb i'r digwyddiad, ond nad oedd angen triniaeth ar unrhyw un.

Does dim adroddiadau fod unrhyw un wedi cael eu hanafu.

'Nid oes unrhyw aelod o staff ar goll'

Dywedodd cwmni BAE mewn datganiad: "Gallwn gadarnhau bod yna ddigwyddiad ar ein safle yng Nglascoed fore Mercher.

"Cafodd mesurau diogelwch cadarn eu gweithredu yn syth, ac fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb yn ogystal.

"Nid oes unrhyw aelod o staff ar goll, ac mae ein tîm argyfwng yn parhau i fonitro'r safle.

"Mae ymchwiliad llawn i'r digwyddiad eisoes wedi dechrau."