Adolygu diogelwch ysgolion wedi achos trywanu Rhydaman

Swyddog heddlu tu allan i Ysgol Dyffryn Aman
Disgrifiad o’r llun,

Presenoldeb heddlu yn Ysgol Dyffryn Aman ar y diwrnod y cafodd dwy athrawes a disgybl eu trywanu

  • Cyhoeddwyd

Mae trefniadau diogelwch ysgolion yn cael eu hadolygu wedi i ddwy athrawes a disgybl gael eu trywanu mewn ysgol uwchradd yn Sir Gâr.

Cafodd yr athrawon, Fiona Elias a Liz Hopkin, a'r disgybl eu hanafu yn dilyn y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman ddydd Mercher diwethaf, a bu'n rhaid cloi'r ysgol am tua phedair awr.

Mae merch 13 oed wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio ac mae hi'n cael ei chadw mewn uned ddiogel i bobl ifanc nes ymddangosiad yn Llys Y Goron Abertawe fis nesaf.

Yn sgil y digwyddiad mae cynghorau ar draws Cymru wedi cysylltu gyda phenaethiaid ysgolion i sicrhau bod trefniadau brys yn gyfredol.

Ffynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Liz Hopkins a Fiona Elias gael triniaeth ysbyty wedi iddyn nhw gael eu trywanu

Cysylltodd BBC Cymru gyda holl gynghorau sir Cymru gan ofyn am ddulliau gweithredu diogelwch wedi'r digwyddiad yn Rhydaman.

Dywedodd Cyngor Sir Gâr bod "trefniadau clo cadarn" o fewn "pob ysgol" yn y sir.

Dywed Cyngor Ceredigion eu bod yn adolygu eu polisïau brys a chlo, a bod pob ysgol wedi derbyn cyflwyniad yn amlinellu'r cynllunio angenrheidiol ar gyfer cloi ysgol.

Ychwanegodd bod yna anogaeth i ysgolion "ymarfer eu cynllun clo" fel bod disgyblion a staff yn deall beth i'w wneud petai yna ddigwyddiad neu ymosodiad.

Mae penaethiaid Gwynedd wedi cael cais i sicrhau bod yr holl drefniadau sydd eisoes yn bodoli yn "weithredol ac yn effeithiol".

Bydd y cyngor yn trafod cynlluniau a gweithredu gyda phrifathrawon sydd angen cefnogaeth.

Yn Sir Conwy mae penaethiaid ac uwch arweinwyr wedi cael cais i adolygu trefniadau diogelwch gyda'r holl ddisgyblion, ac i'w hymarfer os nad yw hynny wedi ei wneud eto.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi "cysylltu gyda phob ysgol i'w hatgoffa o'r protocolau a'r gweithdrefnau clo petai'r angen yn codi".

Roedd ysgolion Sir Y Fflint wedi cael cyngor ynghylch trefniadau brys ddechrau tymor yr haf ac mae'r awdurdod lleol yn dweud y bydd yn ailgyhoeddi'r canllawiau hynny.

Yn Wrecsam, mae penaethiaid wedi cael cais i "wirio a chadarnhau eu trefniadau clo brys", medd y cyngor.

Mae cynghorau Powys a Sir Benfro wedi cysylltu ag ysgolion yn gofyn iddyn nhw adolygu eu polisïau.

'Digwyddiadau fel hyn yn brin'

Dywed Cyngor Caerdydd bod gan ysgolion "gynlluniau digwyddiad argyfwng cynhwysfawr" sy'n destun "profi rheolaidd", ond maen nhw'n adolygu'r cynlluniau gyda phrifathrawon.

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cysylltu gyda phob ysgol yn eu hatgoffa "o bwysigrwydd cael polisi clo wedi ei lunio a'i ymarfer yn dda" i gadw disgyblion a staff yn ddiogel.

Dywed Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr eu bod wedi gofyn i benaethiaid sicrhau bod "athrawon, disgyblion, staff a llywodraethwyr oll yn gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng".

Maen nhw hefyd yn bwriadu cwrdd â phenaethiaid er mwyn "cadarnhau bod yr holl gynlluniau a threfniadau perthnasol yn eu lle".

Ychwanegodd yr aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am addysg y sir, Jon-Paul Blundell: "Tra bod digwyddiadau difrifol fel hyn, diolch i'r drefn, yn brin, hoffwn dawelu meddyliau rheini a gofalwyr bod ysgolion lleol â chynlluniau a threfniadau y gellir eu gweithredu'n gyflym."

Mae Cyngor Torfaen yn bwriadu trafod trefniadau clo gydag arweinwyr addysg ar 13 Mai.

Bydd hefyd yn edrych ar sut mae'n adfer ffensiau a chloeon magnetig yn sgil adroddiadau bod disgyblion wedi gallu eu torri, yn ôl y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol.

Mae arweinwyr ysgol yn Sir Fynwy wedi mynychu "hyfforddiant digwyddiad argyfwng" yn ddiweddar, medd y cyngor, ac mae prosesau mewn grym er mwyn ymateb i ddigwyddiadau brys yn yr ysgol.

Dywedodd Cyngor Caerffili bod "polisïau cadarn mewn lle i warchod ysgolion" a bod modd eu hadolygu "fel mae'n briodol i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn adlewyrchu'r cyngor diweddaraf a'r gwersi o ddigwyddiadau sy'n codi".

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi atgoffa ysgolion i "ailystyried a phrofi eu trefniadau ymateb i argyfwng a'u dulliau gweithredu clo".

Mae'r polisïau hyn, ychwanegodd, yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, gan ddarparu hyfforddiant ble mae angen.

Disgrifiad o’r llun,

Y nod o gloi ysgol yw creu mwy o amser i'r gwasanaethau brys allu ymyrryd

Dywed Cyngor Blaenau Gwent bod "trefniadau cynllunio brys wedi eu hen sefydlu" mewn ysgolion, ynghyd â'r "adnoddau angenrheidiol i gadw dysgwyr yn ddiogel".

Ychwanegodd nad oedd bwriad i gynnal ymarferion diogelwch ond eu bod "wastad yn agored i unrhyw argymhellion" yn dilyn digwyddiadau.

Dywedodd Cyngor Casnewydd bod eu trefniadau diogelwch yn gyfredol "felly nid ydym yn bwriadu cynnal adolygiad ar y foment".

Beth yw'r trefniadau Cod Coch?

Yn ôl cyngor cynllunio brys Cyngor Sir Gâr rhaid cloi pob drws allanol, dylai disgyblion a staff aros ble maen nhw neu symud i ddosbarthiadau y gellid eu cloi neu godi baricêd.

Rhaid cau llenni a bleinds, a thawelu ffonau symudol.

Mae cloi ysgol yn rhannol neu'n llwyr yn sicrhau mwy o amser i'r gwasanaethau brys ymyrryd.

Pynciau Cysylltiedig