Stephen Williams yn ennill ras seiclo La Flèche Wallonne

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r fuddugoliaeth yn dangos bod Williams yn "un o'r seiclwyr gorau yn y byd", meddai Peredur ap Gwynedd

Y Cymro, Stephen Williams, ydy'r dyn cyntaf o Brydain i ennill ras undydd La Flèche Wallonne yng Ngwlad Belg.

Ar ôl ennill y Tour Down Under ym mis Ionawr, hon ydy ei fuddugoliaeth fwyaf hyd yma.

Fe enillodd Williams, sy'n 27, y ras 124 milltir mewn amgylchiadau gwlyb ac oer.

Bu'n rhaid i nifer o seiclwyr eraill, gan gynnwys Tom Pidcock o Brydain, roi'r gorau i'r ras oherwydd y tywydd garw yn Ardennes a dim ond 44 groesodd y llinell derfyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Stephen Williams gyda Kevin Vauquelin o Ffrainc (chwith) a Maxim Van Gils o Wlad Belg

Dywedodd Williams: "Rydw i mor hapus. Rydw i wedi gwylio'r ras gymaint o weithiau ar y teledu ac wedi breuddwydio o ddod yma gyda choesau da er mwyn ceisio ennill. Rydw i wrth fy modd."

"Fe welais i'r arwydd '300m i fynd' a meddwl os y gallai roi pump eiliad fewn i'r grŵp a mynd yn agosach at y lein, yna fe alla i ddal 'mlaen."

Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus i Williams ar ôl iddo ennill y Tour Down Under a chreu argraff yn y Volta a Catalunya, ond doedd dim llawer wedi rhagweld y byddai'n ennill y ras yng Ngwlad Belg.

Wrth agosáu at ddiwedd y cwrs o Charleroi i Huy, llwyddodd Williams i gadw digon o fwlch rhwng Kevin Vauquelin o Ffrainc a Maxim van Gils o Wlad Belg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd Williams: "Rydw i'n mwynhau rasio mewn tywydd fel hyn a chael buddugoliaeth - dwi wedi gwirioni.

"Mae'r bechgyn wedi bod yn fy nghefnogi drwy'r dydd ac wedi rhoi'r cyfle gorau i fi orffen yn y tri uchaf. I ennill y ras... mae hynny'n deimlad anhygoel."

'Ti'n un o'r seiclwyr gorau yn y byd'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y sylwebydd seiclo, Peredur ap Gwynedd: "Stevie Williams unwaith eto wedi ennill a'r tro yma La Flèche Wallonne - un o'r rasys undydd mwyaf mawreddog gei di ar y calendr seiclo.

"Os ti'n ennill Flèche Wallonne mae'n golygu bo ti'n un o'r seiclwyr gorau yn y byd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Stephen Williams yn cystadlu yn y Tour de France ym mis Gorffennaf

"27 mlwydd oed yw e ond gafodd e dwy flynedd eitha gwael achos anaf i'w ben-glin e a ma' nhw wedi sortio hwnna mas nawr diolch byth.

"Dechreuodd e ennill go iawn tua dwy flynedd yn ôl pan nath e ennill y Croatia race... mae e'n cadw ennill y rasys cymalau 'ma a mae wedi dechrau 'neud yn dda iawn a be' ma'n neud ym mis Gorffennaf yw'r Tour de France felly gobeithio nawn ni weld e'n disgleirio yn y ras hynny.

"Fi'n credu bydd e'n mynd mewn i'r Tour de France i ennill cymalau ac efallai eith e am crys y dringwyr. Rhwng fe a cwpl o fois eraill sy' gyda ni o Gymru yn y world tour, mae'n edrych yn ddisglair iawn i ni."

'Lwc a talent gyda'i gilydd'

Mae Peredur ap Gwynedd yn dweud bod ei lwyddiant yn y La Fleche Wallone yn golygu bod rheolwyr y tîm "yn gwybod bod y boi yma'n gallu ennill a mae'r anafiadau tu ôl fe nawr".

"O'dd e ddim fod yn y tîm yma i ddechre off. Nath e ymuno gyda tîm arall ond nath y noddwyr dynnu mas a wedyn dod mewn i Israel-Premier Tech nath e ar ôl i'r tymor ddechre, a lwcus i gael lle yn y tîm o'dd e.

"Tipyn bach o lwc a talent gyda'i gilydd a dyna ni - Stevie Williams yn ennill rasys."

Pynciau Cysylltiedig