Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2024

rhestr fer 2024 Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi datgelu enwau'r cyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024.

Cafodd y rhestr ei datgelu, sy'n cynnwys 12 o lyfrau mewn pedwar categori, ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru brynhawn Sul.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn £1,000 a bydd £3,000 yn ychwanegol i enillwyr y brif wobr yn y ddwy iaith ynghyd â thlws Llyfr y Flwyddyn.

Yn ogystal â'r panel beirniadu, bydd cyfle i'r darllenwyr fynegi eu barn wrth i Golwg 360 a Nation Cymru gynnal pleidleisiau Barn y Bobl.

'Cyfoeth' o lyfrau Cymraeg

Y beirniaid oedd â'r dasg o ddewis y rhestr fer oedd y cynhyrchydd, cyfarwyddwr a'r awdur, Nici Beech; yr actor, cyfarwyddwr a'r awdur, Hanna Jarman; y bardd ac uwch arholwr Llenyddiaeth CBAC Tudur Dylan Jones a'r awdur ac uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Rhiannon Marks.

Dywedodd Rhiannon Marks bod hi'n braf "gweld bod y fath gyfoeth o lyfrau Cymraeg wedi eu cyhoeddi y flwyddyn ddiwethaf".

Fe ychwanegodd Tudur Dylan Jones fod "amrywiaeth ac ehangder y cyfan yn fodd i agor llygaid a phob un o’r awduron yn dangos dawn arbennig i drin geiriau, gan ein syfrdanu a’n hudo fel ei gilydd".

Llŷr Titus oedd enillydd y brif wobr a'r wobr ffuglen yn 2023, ac mae ar y rhestr unwaith yn rhagor eleni o dan y categori Gwobr Ffuglen, gyda'i gyfrol Anfadwaith.

Rhestr Fer Gymraeg 2024

Y Wobr Farddoniaeth

  • Mae Bywyd Yma, Guto Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)

  • Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Barddas)

  • Y Traeth o Dan y Stryd, Hywel Griffiths (Barddas)

Gwobr Ffeithiol Creadigol

  • Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)

  • Y Delyn Aur, Malachy Owain Edwards (Gwasg y Bwthyn)

  • Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)

Gwobr Ffuglen

  • Anfadwaith, Llŷr Titus (Y Lolfa)

  • Sut i Ddofi Corryn, Mari George (Sebra)

  • Raffl, Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy

  • Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa)

  • Y Nendyrau, Seran Dolma (Gwasg y Bwthyn)

  • Astronot yn yr Atig, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

Ffynhonnell y llun, LLenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Nici Beech, Hanna Jarman, Tudur Dylan Jones a Rhiannon Marks yw panel beirniadu'r rhestr fer Gymraeg eleni

Rhestr Fer Saesneg 2024

Y Wobr Farddoniaeth

  • I Think We’re Alone Now, Abigail Parry (Bloodaxe Books)

  • Cowboy, Kandace Siobhan Walker (Cheerio Publishing)

  • In Orbit, Glyn Edwards (Seren)

Gwobr Ffeithiol Greadigol

  • Sarn Helen, Tom Bullough (Granta Publications)

  • Birdsplaining: A Natural History, Jasmine Donahaye (New Welsh Rarebyte)

  • Spring Rain, Marc Hamer (Harvill Secker)

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies

  • Stray Dogs, Richard John Parfitt (Third Man Books)

  • The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, Alex McCarthy (Doubleday)

  • Neon Roses, Rachel Dawson (John Murray)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy

  • Where the River Takes Us, Lesley Parr (Bloomsbury Children’s Books)

  • Brilliant Black British History, Atinuke (Bloomsbury Children’s Books)

  • Skrimsli, Nicola Davies (Firefly Press)

'Gwledd o restr'

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru bod "gwledd o restr" wedi ei dewis gan y beirniaid eleni gan ychwanegu fod pob un o'r cyfrolau yn "cyflwyno agwedd wahanol ar lenyddiaeth Cymru".

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi ei chynnal gan Llenyddiaeth Cymru - y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth - ers 2004.

Bydd un o'r enillwyr categori yn mynd ymlaen i ennill y brif wobr a hawlio teitl Llyfr y Flwyddyn 2024.

Bydd enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Galeri Caernarfon ar nos Iau, 4 Gorffennaf.

Pynciau Cysylltiedig