Seiclwr wedi marw yn ystod reid feics elusennol

CartenFfynhonnell y llun, CARTEN100
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 51 oed wedi marw wrth gymryd rhan mewn reid feics elusennol yn ne Cymru.

Fe gadarnhaodd trefnwyr taith flynyddol CARTEN100 "gyda thristwch dwfn" bod Michael Gronow wedi marw wrth adael Tre Ioan, yn Sir Gaerfyrddin.

Yr amheuaeth yw ei fod wedi cael ataliad ar y galon.

Roedd y gwasanaethau brys, medd y trefnwyr, "wedi cyrraedd bron yn syth gan ymateb yn hynod gyflym a phroffesiynol".

Ychwanegodd eu datganiad: "Mae hyn yn drasiedi ofnadwy i'w wraig, teulu a ffrindiau.

"Hoffai bawb ynghlwm â threfnu'r CARTEN100 gynnig eu cydymdeimladau diffuant."

Mae 2,100 o feicwyr yn cymryd rhan yn y reid feics, sy'n 20 oed eleni, gan seiclo 100 milltir rhwng Caerdydd a Dinbych-y-Pysgod mewn diwrnod.

Pynciau Cysylltiedig