Pryd fydd y tywydd yn cynhesu?

Alex Humphreys
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyflwynydd tywydd, Alex Humphreys yn dweud bod tywydd mwy sefydlog ar y ffordd

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi wedi cael digon ar y tywydd diflas? Os felly, mae cyflwynydd tywydd y BBC yn dweud bod newyddion da ar y ffordd ar gyfer yr wythnos nesaf.

Ar draws y wlad dros yr wythnosau diwethaf dyw'r tymheredd heb godi'n uwch na 10C ar sawl diwrnod, a hithau'n ddiwedd Ebrill bellach.

Ond wrth siarad â BBC Cymru Fyw, fe esboniodd Alex Humphreys bod disgwyl i'r tywydd droi'n gynhesach yr wythnos nesaf.

Dywedodd y bydd y "gwyntoedd yn troi a da ni'n gweld aer mwyn yn symud draw o'r de - aer o Affrica - felly mi fydd hi'n sicr yn teimlo'n gynhesach a bydd y tymereddau yn codi".

Mae disgwyl i Gymru brofi tymereddau sy'n "nes at yr arfer yr adeg yma o'r flwyddyn, sef tua 12-16C".

Ffynhonnell y llun, BBC images

Dywedodd Alex mai'r rheswm y tu ôl i'r tywydd diflas diweddar yw "oherwydd 'da ni mewn llif aer o'r Arctig, felly mae'r gwyntoedd wedi bod yn chwythu syth lawr o gyfeiriad y gogledd".

Mae'r jet lif diweddar, sef y "rhuban o wyntoedd cryfion sydd uwch fyny yn yr atmosffer" wedi arwain at dywydd diflas," meddai.

Ond mae Alex yn rhybuddio bod angen i chi barhau i gario cot law dros yr wythnos nesaf, gan fod disgwyl cawodydd ar adegau.

Pynciau Cysylltiedig