Gwrach y Gororau a chwedloniaeth hudol y ffin

Brett HollyheadFfynhonnell y llun, Brett Hollyhead
  • Cyhoeddwyd

Mae Brett Hollyhead yn wrach sydd yn ymddiddori yn niwylliant a thraddodiad hudol y Gororau.

Bellach yn byw yn Wrecsam, cafodd Brett ei fagu rhwng y ddwy wlad, byth yn ffitio i un man yn arbennig. Ond drwy hynny, daeth i ddysgu am ddeuoliaeth unigryw y Gororau.

Yma mae'n rhannu sut mae chwedloniaeth yr ardal yn anwybyddu'r ffin ddaearyddol.

Gwrach... heb yr het bigog

Mae hanes Cymru yn llawn dewiniaeth. O symbol falch y ddraig goch fawreddog i’r iaith arbennig sydd wedi ei phasio i lawr o’r Prydeinwyr hynafol, gallwch weld hud a lledrith lle bynnag yr edrychwch chi. Er, yn ddiarwybod i nifer, mae dylanwad y wlad yn estyn ymhellach na’r ffiniau.

Fy enw i ydi Brett a dwi’n wrach yng Ngororau Cymru. Cyn i chi ofyn, ydyn, mae dynion yn wrachod hefyd, a na, dydw i ddim yn treulio fy nosau Sadwrn yn cymdeithasu gyda’r diafol yn aberthu cathod fy nghymdogion.

Dwi wedi fy nghyfareddu gan draddodiad swyngyfaredd a’i allu i roi pŵer i’r rheiny sydd yn chwilio am reolaeth dros eu rhyddid eu hunain, a hynny gyda help hud.

Anghofiwch y stereoteip o’r croen gwyrdd a’r hetiau pigog, gall y term ‘gwrach’ olygu nifer o bethau gwahanol i bobl gwahanol. Ond yn bersonol, mae wedi ei gysylltu’n greiddiol â diwylliant amrywiol fy nghartref ar y Gororau, lle dwi wedi cael fy nylanwadu gan ei arferion, traddodiadau a’r dathliadau tymhorol sydd wedi eu gweu â byd natur.

Ffynhonnell y llun, Brett Hollyhead

Rhan o Gymru, rhan o Loegr

Mae’r ‘Gororau’ neu Welsh Marches yn cyfeirio’n benodol at yr ardal ffiniol rhwng Cymru a Lloegr. Mae’r tiroedd yma yn drysorfa o henebion a bryniau anferth lle mae chwedlau goruwchnaturiol a dewiniaeth yn gyffredin ymysg y bobl leol; pobl sydd yn barod i hoelio pedol i’r drws os digwydda unrhywbeth anarferol.

Dyma le o gof byw sydd yn treiddio’n ddwfn i’r tir, yn adleisio straeon buddugoliaethau a dycnwch pobl sydd wedi eu geni o ddwy genedl a gafodd eu hasio â’i gilydd.

Mae’r gymysgfa o’r diwylliannnau Cymreig a Seisnig yma yn amlwg yn enwau lleoedd yr ardal, yr arwyddion dwyieithog, a’r defnydd o’r ddwy iaith ar y strydoedd. Er ei fod ar un cyfnod yn cynnwys nifer o siroedd Cymru, y dyddiau yma, y Gororau yw siroedd Amwythig a Henffordd, a rhannau o Swydd Gaer a Swydd Gaerloyw. Hyd yn oed cyn y Concwest Normanaidd, roedd y gororau yn cael eu hawlio’n gyson gan y breniniaethau Cymreig a Mercia.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Pentrefi ag enwau Cymreig yn Lloegr; mae Trefonen a Llanyblodwel yn Swydd Amwythig, a Bagwyllydiart a Pontrilas yn Swydd Henffordd

Yn ystod y cyfnod anwadal yma rhwng perchnogaeth ac adeiladu cestyll, byddai’r bobl leol yn cymysgu â’i gilydd, gyda rhai yn eu beirniadu am fod yn groesiad dychrynllyd oedd ddim yn perthyn i unrhyw wlad ac a oedd yn fedrus mewn hud.

Wrth dyfu i fyny, treuliais i fy amser yn teithio rhwng cartref fy mam yn Swydd Amwythig, a fy nhad a’i rieni ym Mhowys. Ro’n i bob amser yn teimlo ar y tu allan, yn crwydro ymylon y ddau le, byth yn teimlo mod i wir yn perthyn.

Chwedloniaeth debyg

Ond yn fuan, 'nes i sylweddoli fod hanes y tir a’r straeon 'nes i dyfu i fyny yn eu clywed yn cyfateb â rhai o Gymru.

Mae stori’r cawr Cymreig Gwendol Wrekin ap Shenkin ap Mynyddmawr, a greodd fryn Wrekin ger Telford yn debyg i chwedlau o Forgannwg a Barclodiad y Gawres ar Ynys Môn.

Yr afon Hafren – sy’n agos at ble ges i fy magu – oedd cartref y dduwies Hafren sy’n crwydro’r ddwy wlad. Mewn barddoniaeth fodern gynnar, mae’n hiraethu am diroedd coll Cymru.

Mae hen enwau breniniaethau yn dod i’r amlwg, fel Pengwern, sef testun cerddi sy’n galarnadu ei bod wedi ei difa.

Ffynhonnell y llun, Brett Hollyhead
Disgrifiad o’r llun,

Brett gyda cherflun i'r Dduwies Hafren

Yna, fe wnes i ddarganfod y credoau cyffredin, ac mae rhai o fy ffefrynnau yn ymwneud ag ysbrydion. Mae gan un dylwythen deg ddrygionus enwau tebyg – Bwgan, Bogie neu Bwbach – a byddai’n disgwyl taliad o hufen am helpu â thasgau o gwmpas y tŷ. Roedd hi’m aml yn ymddangos ar ffurf cricedyn ac roedd rhaid bod yn ofalus i beidio â’i niweidio.

Yn ystod y cynhaeaf, byddai doliau grawn (corn dollies) yn cael eu gwehyddu; y gred oedd fod rhain yn cynnwys ysbryd y caeau, ar ffurf ceffyl. Mewn rhai mannau ledled Cymru a’r Gororau, cai hyn ei alw yn Y Gaseg Fedi neu The Mare.

Arferion cyffredin eraill yw’r defnydd o St John’s Wort a Mugwort, a fyddai’n cael eu crogi dros ddrysau a silffoedd ffenest er mwyn cadw’r drwg allan yn ystod un o’r dair noson ysbrydion.

Un o’r rhain fyddai nos Calan Gaeaf, pan fyddai dewiniaeth yn cael ei ddefnyddio i geisio cael cipolwg ar ddarpar gariad; yr enw cyffredin ar hwn yw Rhamanta. Byddai pobl yn cerdded o amgylch eglwys tra’n gafael mewn cyllell ac yn llafarganu i holi ble’r oedd gwain y llafn.

Ffynhonnell y llun, Brett Hollyhead
Disgrifiad o’r llun,

Brett yn dathlu'r Hen Galan gyda'r Fari Lwyd

Dylanwad dewiniaeth

Wrth ystyried gwrachod a phobl gyfrwys (cunning folk), mae’r dulliau o felltithio yn debyg iawn i rai o Gymru, yn enwedig y traddodiad o ferched yn melltithio ar eu pengliniau yng Nghymru, fel Joanna Powell, a felltithiodd warden yr eglwys leol yn Swydd Henffordd yn 1617. Weithiau, byddan nhw’n tynnu eu bronnau er mwyn cryfhau’r effaith.

Un o ddewiniaid enwocaf y Gororau oedd Dick Spot; mae ei anturiaethau yn cael eu cofio ledled Swydd Amwythig a Sir Ddinbych, yn enwedig ei allu i garcharu ysbrydion a swyno’r rheiny oedd yn ddigywilydd efo fo.

Yn naturiol, mae’r dylanwad Cymreig ar fy nghartref wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i mi, a heddiw dwi’n aelod o gwfen o wrachod Cymraeg eu hiaith.

Fel gwrach ac awdur sydd yn parhau i gadw'r cysylltiad rhwng Cymru a’r Gororau, dwi wrth fy modd yn rhannu hanes fy nghartref, dysgu ei hiaith a chynnal sgyrsiau a gweithdai, gyda neges glir mai teitl ar bapur yn unig yw 'ffin'.

Mae traddodiadau, iaith a chredoau yn estyn ymhellach yn yr ardal yma, ble mae’r galon Gymreig yn ffynnu a rhu’r ddraig dal i’w chlywed yn y siroedd dros y ffin.

Ry’n ni dal yma.

Pynciau Cysylltiedig